Dr Mair Edwards
Seicolegydd Clinigol / Clinical Psychologist

01248 715005
post@cathcyf.co.uk


Gwasanaeth Therapi

Rwy’n cynnig gwasanaethau therapiwtig ar draws yr ystod oed – o blant bach i oedolion hyn – i ymdrin â phroblemau iechyd meddwl cyffredin fel gor-bryder, pryder ffobig, ac iselder, ac hefyd yn arbenigo mewn hyfforddiant i rieni a rheoli problemau ymddygiad plant.

Rwy’n derbyn hunan-gyfeiriadau, neu gyfeiriadau gan Feddygon Teulu, Gweithwyr Cymdeithasol, neu broffesiynau eraill (e.e. cyfreithwyr). Nodwch os gwelwch yn dda nad wyf yn derbyn cyfarwyddiadau drwy asiantaethau.

Fel arfer, ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin, rwy’n gweithio o fewn fframwaith therapi ymddygiad a gwybyddol. Ar gyfer unigolion sydd â phroblemau yn deillio o brofiadau anodd (e.e. camdriniaeth mewn pletyndod, trais yn y cartref, hanes blaenorol o gamdrin alcohol a/neu gyffuriau eraill, galar, ayyb) yna fel arfer mae angen edrych yn fwy manwl ar strategaethau ymlyniad ac effaith hynny ar y presennol.

Nid wyf yn cynnig gwasanaethau therapiwtig i unigolion sydd angen gwasanaeth aml-ddisgyblaethol (e.e. ADHD), neu sydd angen gwasanaethau mwy arbenigol ar gyfer afiechyd meddwl dwys (e.e. seicosis). Nid wyf yn gallu cynnig gwasanaeth brys.

O ran asesiadau ar gyfer dibenion addysgol/hyfforddiant yn unig (h.y. lle nad oes pryder penodol ynghylch iechyd meddwl) rwy’n argymell i rieni geisio gwasanaeth arbenigol gan Seicolegydd Addysg neu Therapydd Galwedigaethol gan eu bod yn fwy tebygol o allu rhoi arweiniad i ddisgyblion, rhieni, ac ysgolion ar faterion addysg.

Mae costau therapi yn y sector breifat yn gost sylweddol i unigolion a theuluoedd sy’n talu eu hunain – ac yr wyf yn sylweddoli mai nid ar chwarae bach mae pobl yn gofyn am wasanaeth. Yr ydym felly yn cael trafodaeth agored gyda phob client sy’n dod atom ynghylch y costau tebygol ac yn trafod darparwyr addas eraill yn y sector wirfoddol ac o fewn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol a all fod yn fwy addas ar eich cyfer.