CATh Cyf.

Canolfan Asesu a Therapi

  • Hafan
  • Newyddion
  • CATh Cyf.
  • Gwasanaethau CATh Cyf.
  • Gwybodaeth
  • Cysylltu

Cymraeg | English

Yn yr adran yma:

  • Gwybodaeth
  • Gwybodaeth i gyfreithwyr ac Awdurdodau Lleol
  • Gwybodaeth i rhieni
  • Llyfrgell - Dogfennau

Bookmark and Share

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc

Os wyt ti wedi cael dy gyfeirio i gael asesiad yma yn CATh Cyf yna mae’n debyg y byddi’n teimlo dipyn bach yn bryderus ac yn ansicr. Er mor naturiol ydi teimlo felly - wir yr – does dim angen!

Yn ystod y sesiwn asesu byddaf yn gofyn i ti am dy hanes ac am hanes dy deulu. Nai hefyd ofyn am yr ysgol a dy ddiddordebau. Does dim cwestiynau anodd ac os wyt ti ddim yn siwr o rhywbeth, neu ddim yn gwybod yr ateb, does dim problem. Yr unig beth sydd yn bwysig ydi dy fod yn gallu bod yn onest hefo ni – hyd yn oed os ydi hynny’n anodd. Weithiau byddaf yn gofyn i rai plant lenwi holiaduron sy’n gofyn am deimladau a meddyliau. Mae’r rhan fwyaf o blant yn eitha mwynhau hynny!

Weithiau bydd plant sy’n dod i’m gweld yn tynnu lluniau, neu’n chwarae gemau, neu’n chwarae hefo tegannau. Weithiau fe awn ni allan i’r ardd i gicio pel neu eistedd ar y fainc (os ydi’r haul yn gwenu!) – ond gan nad ydw i yn dda iawn am gicio pel mae’n bosib bydd rhywun arall yn ymuno a ni.

Ar ddiwedd ein sesiwn fe nai ofyn i ti os wyt ti isio gofyn unrhywbeth i fi. Os ydw i’n gwybod yr ateb na’i ateb – ac os dwi ddim yn gwybod yr ateb na’i ddeud hynny hefyd.

Rydan ni hefyd wastad yn cynnig diod poeth neu oer, ac os oes yna fisgedi ar gael yn y gegin, yna rydan ni’n hapus iawn i’w rhannu.

Ar ol gorffen yr asesiad fel arfer byddaf yn sgwennu adroddiad er mwyn helpu’r pobl sy’n dy helpu di a dy deulu i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.

 

Hawlfraint (c) 2011 CATh Cyf. Cedwir pob hawl. Dyluniwyd gan Delwedd