Yn yr adran yma:
Gwaith Llys: Achosion cyswllt
Er bod y rhan fwyaf o rieni sy’n gwahanu/ysgaru yn llwyddo i ddod i gytundeb ynghylch gofal eu plant, mae rhai teuluoedd yn dod i sylw’r llysoedd oherwydd nad yw cytundeb yn bosib ar agweddau o rannu gofal a/neu cyswllt gyda’r rhiant heb ofal. Mewn canran o achosion gall asesiad seicoleg clinigol alluogi gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau i ddatrys y sefyllfa. Mae gennym brofiad helaeth yn CATh Cyf o asesu rhieni, plant, ac aelodau o deuluoedd estynedig i geisio roi cymorth i’r teuluoedd a’r Llysoedd wrth iddynt wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant.

