Pwy di Pwy
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Rheolwr Gyfarwyddwr: Dr Mair Edwards
Fel Doethur mewn Seicoleg Clinigol yr wyf wedi arbenigo ym maesydd iechyd meddwl rhieni, ymddygiad a datblygiad plant, ac asesu sgiliau rhieni. Wedi cyfnod yn gweithio o fewn gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru, ac fel Cymrawd Dysgu yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor bum yn gweithio fel seicolegydd clinigol annibynnol cyn mynd ymlaen i sefydlu CATh Cyf. Ers 2000 rwyf wedi bod yn darparu gwasanaethau o asesu seicolegol, hyfforddiant, ac ymgynghoriad i Awdurdodau Lleol, cyrff gwirfoddol, ac ysgolion annibynnol, ac yn derbyn cyfarwyddiadau ar gyfer darparu adroddiadau seicolegol mewn achosion llys sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, a’u rhieni a’u teuluoedd estynedig. Mae’r cyswllt rhyngof â’r Ysgol Seicoleg ym Mangor yn parhau yn fy rol fel Darlithydd er Anrhydedd. Mae galw eithaf cyson arnaf hefyd i gyflwyno gwybodaeth am bynciau seicolegol yn y cyfryngau ac i sefydliadau eraill.
Yr wyf yn Seicolegydd Siartredig ac yn Aelod o'r Gymdeithas Seicoleg Brydeinig (BPS), ac yn aelod o'r Adran Seicoleg Clinigol a Chyfadran Plant, Pobl Ifanc, a'u Teuluoedd. Rwyf wedi fy nghofrestru fel Ymarferydd Seicolegol (Clinigol) gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol: Ms Karen Loane*
Ers cymhwyso fel Seicolegydd Clinigol yn 1992 rwyf wedi dilyn gyrfa yn gweithio yn bennaf gyda phlant, pobl ieuainc, a’u teuluoedd, ond hefyd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio ym maes iechyd meddwl oedolion a Seicoleg Iechyd. Yn fy mhrif swydd gyfredol rwy’n rheoli tim o seicolegwyr. Yn fy ngwaith gyda CATh Cyf rwyf yn ymgymryd a nifer fechan o achosion fel ymgynghorydd a gallaf ymgymeryd ag achosion gofal a lles, cyswllt, asesiadau rhieni, ac asesiadau gwybyddol.
Seicolegydd Cwnsela: Ms Miriam Shieldhouse*
Yn dilyn cymhwyso fel Seicolegydd Cwnsela Siartredig ym 2004 arbenigais mewn gweithio o fewn adran Iechyd Meddwl Fforensig. Ers 2007, rwyf wedi gweithio’n llawn amser fel tyst arbenigol, gan ganolbwyntio fy sgiliau clinigol, fforensig, a therapi i’r maes iechyd meddwl rhieni ac effaith anhwylderau emosiynol ar ymwneud rhieni a’r rôl o fod yn rhiant. Yr wyf yn cynnig gwasanaeth o asesiadau ac adroddiadau o fewn Achosion Llys sy’n ymwneud ag iechyd seicolegol rhieni ac effaith hyn ar iechyd a gofal eu plant.
Rwyf hefyd yn Seicolegydd Cwnsela sy’n ymarfer yn therapiwtig. Gallaf gynnig gwasanaeth therapi i rieni sydd yn cael eu heffeithio gan iselder, gorbryder, gorbryder ôl-drawmatig, problemau o fewn perthynas, trais o fewn y cartref, problemau ymlyniad gyda’u plant, colled, galar, a symptomau trawma. Mae fy hyfforddiant yn fy ngalluogi i deilwra gwaith therapiwtig i fod yn addas i’r unigolyn o fewn fframwaith therapi Gwybyddol ac Ymddygiadol.
*Noder na all Karen Loane a Miriam Shieldhouse ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg

