CATh Cyf.

Canolfan Asesu a Therapi

  • Hafan
  • Newyddion
  • CATh Cyf.
  • Gwasanaethau CATh Cyf.
  • Gwybodaeth
  • Cysylltu

Cymraeg | English

Yn yr adran yma:

  • Gwasanaethau CATh Cyf.
  • Gwaith Llys: Gofal Plant
  • Gwaith Llys: Achosion cyswllt
  • Asesiadau: Gwybyddol
  • Hyfforddi Rhieni
  • Hyfforddiant i wasanaethau
  • Ymholiad ar-lein

Bookmark and Share

Therapi

Mae CATh Cyf yn cynnig gwasanaethau therapi seicolegol i blant, pobl ifanc, ac oedolion.

Gan ddefnyddio strwythur therapi gwybyddol ac ymddygiad (CBT) yn bennaf yr ydym yn hyddysg mewn darparu gwasanaethau ar gyfer:

 

  • anhwylderau iselder
  • anhwylderau gor-bryder – gan gynnwys ffobia, pryder cymdeithasol, anhwylder obsesiynol gorfodol (OCD), pryder yn dilyn anffawd (e.e. PTSD), ayyb

Gan ddefnyddio strwythur therapi wedi ei ganoli ar yr unigolyn, a gan ddefnyddio elfennau o therapi gwybyddol, ymddygiad, a dadansoddol yr ydym yn hyddysg mewn darparu therapi ar gyfer addasu i amgylchiadau anodd (e.e. yn dilyn cam-driniaeth plentyndod, trais o fewn perthynas, hanes o gamdrin alcohol neu gyffuriau eraill yn y gorffennol, galar, ayyb).

Gan ddefnyddio ymyrraethau seicolegol wedi ei seilio’n gadarn ar ddamcaniaethau seicoleg ymddygiad a gwybyddol yr ydym yn darparu gwasanaethau therapiwtig eang ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys:

  • problemau ymddygiad (gan gynnwys hyfforddi rhieni)
  • problemau gyda gwlychu neu faeddu
  • anhwylderau ymlyniad
  • anhwylderau mudandod
  • anhwylderau gor-bryder (gan gynnwys ffobia, pryder cymdeithasol, pryder gwahanu, pryder yn ymwneud a’r ysgol, ayyb)
  • anhwylderau iselder

Nid ydym yn darparu gwasanaethau therapiwtig ar gyfer oedolion sydd ag angenion mwy dwys (e.e. anhwylderau seicosis), neu lle mae angen cyfuno gwasanaethau er mwyn bod yn effeithiol (e.e. lle mae angen cydweithio agos rhwng iechyd ac addysg gyda phlant ar y sbectrwn awtistiaeth neu gyflwr fel ADHD).

Yr ydym yn hynod ymwybodol bod costau therapi yn y sector breifat yn gost sylweddol i unigolion a theuluoedd sy’n talu eu hunain – ac mai nid ar chwarae bach mae pobl yn dod atom. Yr ydym felly yn cael trafodaeth agored gyda phob client sy’n dod atom ynghylch y costau tebygol ac yn trafod darparwyr addas eraill yn y sector wirfoddol ac o fewn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol a all fod yn fwy addas ar eich cyfer.  

 

Hawlfraint (c) 2011 CATh Cyf. Cedwir pob hawl. Dyluniwyd gan Delwedd